Tom The Musical

https://www.facebook.com/pages/Tom-The-Musical/593333760769263 https://twitter.com/TOMthemusical

Awdur
Mike James

Cyfarwyddydd
Geinor Styles

Trefnydd Cerddoriaeth
Ben Goddard

Cynllunydd
Sean Crowley

Cyfarwyddydd Cerdd
Greg Palmer

Cynllunydd Goleuo
Jason Taylor

Cynllunydd Sain
Mike Beer

Cynllunydd Gwisgoedd
Sian Jenkins

Mae Theatr na nÓg yn cyflwyno Cynhyrchiad TNN

Dewch ar siwrnai yn ôl i’r gorffennol, i neuaddau dawns, clybiau llafur a stiwdios recordio’r ’60au. Dyma fan geni’r chwedl o’r enw Tom Jones: bachgen o’r Cymoedd gyda llais arbennig a freuddwydiodd am gyrraedd y brig, beth bynnag fo’r pris.

Mae’r stori ysbrydoledig yma o hunan-gred a chymeriad penderfynol yn cael ei pherfformio’n fyw ar lwyfan gan gast gwych o actorion a cherddorion, i ddathlu dyn cyffredin â thalent nodweddiadol ddaeth yn arweinydd ar lwyfan y byd.

Gyda chaneuon o’r cyfnod fel Ghost Riders in the Sky, Spanish Harlem a Lucille, byddwn yn dilyn Tom wrth iddo ddringo’r uchelfannau, gan orffen â rhai o’r caneuon a’i wnaeth yn un o sêr mwyaf eiconig a charismatig y cyfnod: It’s Not Unusual, Delilah, Green, Green Grass of Home, What’s New Pussycat? a mwy.

Canllaw Oed: 12+ (Dim plant o dan 2 oed)
Yn cynnwys iaith gref.
Cynhyrchiad drwy gyfrwng y Saesneg


Dyddiadau'r daith